Rydym yn bwriadu adeiladu tyrbin pelton 55kW yn agos at ganol Corwen, wedi ei ariannu gan gyfranddaliadau cymunedol, ac yn eiddo i’r rhanddeiliaid, ac fe fyddan nhw’n dod yn aelodau awtomatig o’n menter gydweithredol drwy brynu cyfranddaliadau. Bydd y rhai sy’n berchen cyfranddaliadau’n derbyn elw dros yr 20 mlynedd nesaf, a chant daliadau llog dros y cyfnod hwn, yn ogystal â bod peth arian yn mynd i gronfa gymunedol.
Dros yr 20 mlynedd nesaf, bydd y tyrbin yn cynhyrchu trydan, gan leihau ôl troed carbon Corwen, a dod ag ychydig o’n seilwaith trydan i feddiant democrataidd lleol yn hytrach na’i fod yn eiddo i gwmnïau rhyngwladol mawr.