Mae pob trwydded gan CNC ar gyfer y cynllun yng Nghorwen wedi eu derbyn bellach.
Cafwyd caniatâd cynllunio ym mis Medi, ond ers hynny, nid yw’r safle y bwriadwyd gosod y cwt tyrbin yn y gwaelod ar gael, felly bu’n rhaid newid safle’r adeilad hwnnw. Nid yw hyn yn effeithio’n fawr ar gynnyrch na chost y cynllun, ond mae’n golygu fod angen ailgyflwyno’r cais cynllunio er mwyn iddo ddangos yn gywir sut y bydd y cynllun yn cael ei adeiladu.
O’n trafodaethau ni gyda’r swyddogion cynllunio, nid oes unrhyw bryder y bydd y newid hwn yn cael ei derbyn gan y cynllunwyr. Yr unig ganlyniad yw bod hyn wedi golygu nad fydd gennym ganiatâd cynllunio ar gyfer y cynllun terfynol hyd y 31ain Rhagfyr. Dyma oedd y dyddiad y byddai’r rhaid cyflwyno cais i OFGEM (“achrediad cychwynnol”) er mwyn bod yn rhan o’r Tariff Cyflenwi Trydan presennol.
Rydym wedi cyflwyno cais i OFGEM gyda’r cais cynllunio presennol. Mae OFGEM yn nodi yn eu canllawiau y byddai’r achrediad cychwynnol yn annilys os yw’r “safle” yn wahanol rhwng y cais terfynol a’r cais cynllunio a gyflwynwyd gyda’r achrediad cychwynnol. Nid yw OFGEM yn rhoi esiamplau o’r hyn a olygir gan “wahanol” a chaiff hynny ei bennu yn ôl asesiadau safleoedd unigol.
Ni wyddom felly ar hyn o bryd a fydd ein cais am achrediad cychwynnol yn parhau i fod yn ddilys. Rydym wedi tynnu sylw OFGEM at y newid hwn yn y cais cynllunio ac rydym yn aros am eu penderfyniad. Os byddan nhw’n penderfynu fod y cynllun yn “wahanol”, byddai hyn yn golygu y byddai’n rhaid i ni dderbyn y Tariff Cyflenwi Trydan ar ôl 31 Mawrth 2015. Mae ein cyfrifiadau’n dangos fod y cynllun yn dal yn hyfyw o dan y tariff is ond byddai’n rhaid i swm y gronfa gymunedol fod yn llai.
Y rhan olaf cyn y gallwn adeiladu yw cwblhau pob les. Mae gennym arian gan Ynni’r Fro i dalu’r costau cyfreithiol i gyd, ac rydym eisoes mewn trafodaethau manwl gyda’r tirfeddianwyr i gyd a’r gobaith y cael arwyddo’r rhain a chael cadarnhad gan OFGEM ynglŷn â’r Tariff Cyflenwi Trydan, cyn diwedd mis Ionawr. Wedi hynny, bwriadwn gynnig cyfranddaliadau ar gyfer y costau adeiladu yn ystod mis Chwefror a Mawrth.