Rydym yn falch iawn o ddweud fod ein prosiect wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau cenedlaethol ar gyfer ynni cymunedol! Bydd Ynni M&S yn rhoi dwy wobr genedlaethol o £40,000 ac £20,000, gwobrau arian rhanbarthol i brosiectau ar draws Prydain Fawr sydd angen mwyafswm o £12,500 a gwobr gan y beirniad o £15,000 am y prosiect mwyaf dyfeisgar neu ysbrydoledig. Yn dilyn y cyfnod cyntaf o dynnu rhestr fer, mae’r gystadleuaeth bellach yn agored i bleidleisiau gan y cyhoedd. Rydym wedi cyrraedd y rhestr fer yn y Categori Rhanbarthol i Ogledd Cymru, Swydd Caer a Glannau Merswy a gallem ennill £12,500.
Rydym angen eich cymorth – ar frys – fel y gallwn ennill y wobr hon. Ceisiwch gael cynifer a phosibl o’ch ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion i bleidleisio dros ein prosiect. Bydd yn wynebu cystadleuaeth gan brosiectau mewn dinasoedd mawrion fel Lerpwl, felly mae pob pleidlais yn cyfrif.
Byddwn yn rhannu’r ddolen a rhai lluniau y gallwch eu defnyddio ar Facebook a Trydar yma ddechrau’r wythnos nesaf.