Amdanom ni

Mae gan Drydan Cydweithredol Corwen gyfarwyddwyr gwirfoddol sy’n rhan o’r bwrdd sefydlu. Yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf, bydd etholiadau a bydd unrhyw un o’r aelodau’n gymwys i sefyll yn yr etholiad. Mae’r bwrdd presennol yn cynnwys y cyfarwyddwyr canlynol:

Michael Paice – Cyfarwyddwr

Yn wreiddiol, rwy’n dod o Greenwich yn Llundain ond rwyf wedi bod yn byw mewn amryw o lefydd o gwmpas y DU gan gynnwys Gogledd Iwerddon a Norfolk.
Symudais i Gynwyd 8 mlynedd yn ôl gyda fy mhartner Jen. Rydym yn byw bywyd eithaf cynhaliol gyda mochyn, ambell ddafad o frid prin, hwyaid ac ieir. Rydym yn tyfu ein ffrwythau a’n llysiau ein hunain. Gosodom baneli solar ddwy flynedd yn ôl ac maent wedi dod ag elw da i ni.
Rwyf wedi gweithio fel gwirfoddolwr gyda Grŵp Adfer y Dyfrffyrdd ar gamlesi ar hyd a lled Lloegr dros y 23 mlynedd diwethaf. Rwyf bellach yn ymwneud â Chymdeithas Reilffordd Corwen a Gŵyl Gerdded Corwen.
Rwy’n gobeithio y bydd y cynllun hydro hwn yn gwella ein tref ac yn annog eraill i gymryd rhan.

Joel Scott – Cyfarwyddwr

Mae gen i gefndir mewn peirianneg fecanyddol ac rwyf wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau yng ngwaith cemegol Monsanto yn lleol ers 23 mlynedd. Y tu allan i’r gwaith rwyf wedi bod ar sawl pwyllgor, ac yn parhau i fod ar bwyllgorau yng Nghorwen a’r cyffiniau, gan gynnwys ysgrifennydd i Glwb Criced Sir Feirionydd a Chorwen, cyn drysorydd a warden eglwys y Plwyf Carrog, aelod o bwyllgor Parc y Gofgolofn Ryfel, ac yn fwy diweddar yn un o sylfaenwyr ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Rheilffordd Corwen. Rwy’n gweld y prosiect hydro hwn yn ddolen hanfodol i ffyniant tref Corwen yn y dyfodol gan ei fod yn cynnig arian er budd y gymuned, yn ogystal ag uno pobl y dref, addysgu ein pobl ifanc (gan y byddai’n brosiect gwych i’n hysgolion ei ddilyn) a gwneud ein rhan i leihau ôl troed carbon ein byd.

Rwy’n briod â merch leol ac mae gennym bedwar o blant a phedwar o wyrion.

Glaves Roberts – Cyfarwyddwr

Rwy’n aelod gweithgar o Gyngor Tref Corwen, Partneriaeth Corwen a Phwyllgor Cerddwyr Corwen. Rwy’n awyddus i helpu’r gymuned yng Nghorwen i wella’r ardal a hefyd i helpu i ddod â mwy o ymwelwyr i’r rhan hardd hon o Ogledd Cymru. Dylai’r cynllun hydro gyfrannu peth cymorth ariannol i’r gymuned drwy gynhyrchu ynni gwyrdd:- bydd pawb ar eu hennill!

Ifor Sion – Cyfarwyddwr

Rwy’n hanu o Wyddelwern, ac yna bûm yn byw ym Mryneglwys am ychydig cyn dod i Gorwen ym 1985.
Ar ôl ennill gradd mewn Electroneg ym Mhrifysgol Bangor, cychwynnais fy musnes trydanol fy hun. Yn ystod y cyfnod hwnnw cyflawnais y gwaith o ail-wifro Palé Hall, Llandderfel, sy’n berchen ar ei system hydro 60kW ei hun, wedi ei gosod ym 1918 ac yn dal i weithio’n llawn heddiw.
Bellach, a thros yr 16 mlynedd diwethaf, (newid mawr) rwy’n rhedeg Gwesty’r Owain Glyndŵr yng Ngorwen.
Gyda Nant Cawrddu yn llifo o dan y gwesty, mae gen i ddiddordeb mawr yn llwyddiant y prosiect hwn.