News

Trydan Cydweithredol Corwen ar restr fer Cronfa Ynni Cymunedol M&S

Rydym yn falch iawn o ddweud fod ein prosiect wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau cenedlaethol ar gyfer ynni cymunedol! Bydd Ynni M&S yn rhoi dwy wobr genedlaethol o £40,000 ac £20,000, gwobrau arian rhanbarthol i brosiectau ar draws Prydain Fawr sydd angen mwyafswm o £12,500 a gwobr gan y beirniad o £15,000 am y prosiect mwyaf dyfeisgar neu ysbrydoledig. Yn dilyn y cyfnod cyntaf o dynnu rhestr fer, mae’r gystadleuaeth bellach yn agored i bleidleisiau gan y cyhoedd. Rydym wedi cyrraedd y rhestr fer yn y Categori Rhanbarthol i Ogledd Cymru, Swydd Caer a Glannau Merswy a gallem ennill £12,500.

Rydym angen eich cymorth – ar frys – fel y gallwn ennill y wobr hon. Ceisiwch gael cynifer a phosibl o’ch ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion i bleidleisio dros ein prosiect. Bydd yn wynebu cystadleuaeth gan brosiectau mewn dinasoedd mawrion fel Lerpwl, felly mae pob pleidlais yn cyfrif.

Byddwn yn rhannu’r ddolen a rhai lluniau y gallwch eu defnyddio ar Facebook a Trydar yma ddechrau’r wythnos nesaf.

Taith gerdded ar hyd llwybr y cynllun dŵr

Ddydd Sadwrn, rydym wedi trefnu taith gerdded ar hyd llwybr y cynllun dŵr, fel y gallwch weld drosoch eich hun ble bydd yn cael ei adeiladu, lle bydd y bibell yn cael ei gosod, a ble bydd cwt y tyrbin. Os oes gennych ddiddordeb, dewch i gyfarfod yng ngwesty’r Owain Glyndŵr am 11am ddydd Sadwrn 9fed Mai, a bydd y Cyfarwyddwyr yn arwain taith at y gronfa.

Dylech wisgo esgidiau cerdded addas a bydd y llwybr yn eithaf serth. Bydd ychydig o geir ar gael i fynd a nifer fechan o bobl at y gronfa ar hyd y ffordd.

Dylai’r daith gymryd ychydig o oriau. Does dim angen archebu lle, dim ond cyrraedd mewn pryd, ond os hoffech gael sgwrs, ffoniwch 01743 277119 neu e-bostiwch info@corwenelectricity.org.uk

Dogfen cyfranddaliadau wedi ei uwch lwytho i’r wefan

The share offer was officially launched yesterday – you can now download the share offer from our website www.corwenelectricity.org.uk. Please contact us with any questions either via the website on info@corwenelectricity.org.uk or by phone 01743 277119

Cafodd y ddogfen gyfranddaliadau ei lansio’n swyddogol ddoe – gallwch lawr lwytho’r ffurflen gyfranddaliadau o’n gwefan www.trydancorwen.org.uk Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau naill ai drwy’r wefan ar info@trydancorwen.org.uk neu dros y ffôn ar 01743 277119

Trwyddedau Asiantaeth yr Amgylchedd

Mae pob trwydded gan CNC ar gyfer y cynllun yng Nghorwen wedi eu derbyn bellach.
Cafwyd caniatâd cynllunio ym mis Medi, ond ers hynny, nid yw’r safle y bwriadwyd gosod y cwt tyrbin yn y gwaelod ar gael, felly bu’n rhaid newid safle’r adeilad hwnnw. Nid yw hyn yn effeithio’n fawr ar gynnyrch na chost y cynllun, ond mae’n golygu fod angen ailgyflwyno’r cais cynllunio er mwyn iddo ddangos yn gywir sut y bydd y cynllun yn cael ei adeiladu.
O’n trafodaethau ni gyda’r swyddogion cynllunio, nid oes unrhyw bryder y bydd y newid hwn yn cael ei derbyn gan y cynllunwyr. Yr unig ganlyniad yw bod hyn wedi golygu nad fydd gennym ganiatâd cynllunio ar gyfer y cynllun terfynol hyd y 31ain Rhagfyr. Dyma oedd y dyddiad y byddai’r rhaid cyflwyno cais i OFGEM (“achrediad cychwynnol”) er mwyn bod yn rhan o’r Tariff Cyflenwi Trydan presennol.
Rydym wedi cyflwyno cais i OFGEM gyda’r cais cynllunio presennol. Mae OFGEM yn nodi yn eu canllawiau y byddai’r achrediad cychwynnol yn annilys os yw’r “safle” yn wahanol rhwng y cais terfynol a’r cais cynllunio a gyflwynwyd gyda’r achrediad cychwynnol. Nid yw OFGEM yn rhoi esiamplau o’r hyn a olygir gan “wahanol” a chaiff hynny ei bennu yn ôl asesiadau safleoedd unigol.
Ni wyddom felly ar hyn o bryd a fydd ein cais am achrediad cychwynnol yn parhau i fod yn ddilys. Rydym wedi tynnu sylw OFGEM at y newid hwn yn y cais cynllunio ac rydym yn aros am eu penderfyniad. Os byddan nhw’n penderfynu fod y cynllun yn “wahanol”, byddai hyn yn golygu y byddai’n rhaid i ni dderbyn y Tariff Cyflenwi Trydan ar ôl 31 Mawrth 2015. Mae ein cyfrifiadau’n dangos fod y cynllun yn dal yn hyfyw o dan y tariff is ond byddai’n rhaid i swm y gronfa gymunedol fod yn llai.
Y rhan olaf cyn y gallwn adeiladu yw cwblhau pob les. Mae gennym arian gan Ynni’r Fro i dalu’r costau cyfreithiol i gyd, ac rydym eisoes mewn trafodaethau manwl gyda’r tirfeddianwyr i gyd a’r gobaith y cael arwyddo’r rhain a chael cadarnhad gan OFGEM ynglŷn â’r Tariff Cyflenwi Trydan, cyn diwedd mis Ionawr. Wedi hynny, bwriadwn gynnig cyfranddaliadau ar gyfer y costau adeiladu yn ystod mis Chwefror a Mawrth.